English Cymraeg

 

Croeso

Croeso i'r MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles).

Mae’r cwrs yn adlewyrchu ehangder yr ymarfer o fewn maes y celfyddydau, iechyd a lles gan ddarparu ar gyfer ffurfiau amrywiol ar greadigrwydd, o gyfranogiad ac ymarfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, i weithiau celf safle-benodol sydd â’r nod o wella lleoliadau gofal iechyd. Mae’r rhaglen wedi’i llywio gan ddatblygiadau strategol, gwaith cyfredol ac ymchwil, ac mae wedi’i chynllunio i gynnig y sgiliau a’r egwyddorion sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lwyddo yn y maes yma o arfer proffesiynol sy’n ehangu ac sy’n cael ei werthfawrogi fwyfwy.

Llun: Ginnie Bateman

Arddangosfa Myfyrwyr

Drwy gydol yr MA, bydd ein myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu meysydd penodol o ymarfer celfyddydol ac i greu gwaith sy’n bwrpasol ac yn uchelgeisiol o ran gwella iechyd a lles. Mae’r prosiectau sydd wedi’u cwblhau gan ein graddedigion wedi’u llywio gan eu diddordebau a’u hieithoedd creadigol unigol. Mae eu creadigrwydd yn cwmpasu celfyddydau gweledol, dawns, darlunio, adrodd straeon, cerddoriaeth, serameg, ffilm a ffotograffiaeth, gan gyflwyno cymuned amrywiol o arferion a chyfrannu at faes esblygol a hanfodol y celfyddydau, iechyd a lles.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am yr MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) cysylltwch â’r canlynol:

Arweinydd y Cwrs, Carol Hiles carol.hiles@southwales.ac.uk
Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk

Llun: Rebecca Lewis