English Cymraeg

GWYBODAETH

Mae’r MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) wedi’i lleoli ar Gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru.

Llun: Helen Vincent

Mae’r MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) wedi’i lleoli ar Gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru. Hyd y cwrs yw 18 mis. Mae'r addysgu'n dechrau ym mis Medi bob blwyddyn ac yn cael ei gyflwyno ar y campws, dros  un penwythnos y mis. Mae tiwtorialau’n cael eu trefnu rhwng y penwythnosau addysgu ac yn cael eu cynnal ar-lein. Yn ogystal ag addysgu gan diwtoriaid cwrs, mae rhaglen o siaradwyr gwadd yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad i ystod o arfer proffesiynol rhagorol.

Mae gan yr MA hanes cyfoethog o weithio ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid, gan adleisio dyheadau a diddordebau proffesiynol unigolion a grwpiau myfyrwyr. Mae cyfleoedd i ddatblygu ymarfer ac i gwblhau prosiectau creadigol mewn tri modiwl Ymarfer Celf.Mae myfyrwyr hefyd yn cwblhau modiwlau mewn Ymchwil a Datblygu, Ymarfer Creadigol ac Ymarfer Proffesiynol ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Lles. Disgwylir i fyfyrwyr drefnu eu prosiectau/lleoliadau eu hunain gydag arweiniad a chefnogaeth gan y tîm addysgu. Mae ein myfyrwyr wedi symud ymlaen i gyflogaeth fel ymarferwyr celfyddydau llawrydd sy’n gweithio ar gomisiynau ac mewn cyd-destunau cymunedol, yn gweithio gyda byrddau iechyd, elusennau, awdurdodau lleol, y sector addysg ac yn astudio ymhellach. Rydyn ni’n falch o fod â chyn-fyfyrwyr sydd bellach mewn swyddi o gyfrifoldeb mewn byrddau iechyd ac mewn swyddi ymgynghori mewn sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae graddedigion y cwrs yma’n mynd ati i geisio gwella iechyd a lles drwy waith ymgysylltu creadigol ac yn llywio dyfodol ymarfer a datblygiad strategol ym maes iechyd a’r celfyddydau.